|
Rhif y ddeiseb: P-06-1496 Teitl y ddeiseb: Gwneud prawf sgrinio calon yn ofyniad hanfodol ar gyfer aelodaeth o glybiau chwaraeon a champfeydd yng Nghymru Geiriad y ddeiseb: Yn yr Eidal a gwledydd eraill yn Ewrop, mae prawf sgrinio calon yn ofyniad hanfodol ar gyfer aelodaeth o glybiau chwaraeon a champfeydd a hoffem i hyn gael ei osod yng Nghymru. |
Mae sgrinio'n cynnig cyfle i ganfod pobl sy’n ymddangos yn iach a allai fod mewn mwy o berygl o gael clefyd neu gyflwr. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu nifer o raglenni sgrinio cenedlaethol. Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl, sy’n darparu rhagor o wybodaeth am y sgrinio sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru.
Marwolaeth Sydyn y Galon (SCD) yw marwolaeth sydyn ac annisgwyl person a achosir gan broblem gyda'i galon. Mewn pobl o dan 39 oed, yn aml, yr achos yw bod cyhyr y galon wedi tewhau neu broblem drydanol gyda'r galon. Mewn pobl hŷn, mae SCD fwy tebygol mai’r achos yw bod y pibellau gwaed sy’n cyflenwi’r galon wedi culhau (clefyd coronaidd y galon).
Gallai sgrinio’r galon ganfod cyflyrau'r galon yn gynnar, canfod y rhai sydd mewn perygl, a galluogi triniaeth i ddechrau'n gynt.
Yn ôl yr elusen Cardiac Risk in the Young, mae Cymdeithas Ewropeaidd Cardioleg a Phwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn argymell sgrinio’r galon ar gyfer unrhyw berson ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Yn yr Eidal, mae’n orfodol i sgrinio rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon cynrychioliadol.
Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yn cynghori gweinidogion a'r GIG ym mhedair gwlad y DU ar bob agwedd ar sgrinio ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu’r rhaglenni sgrinio.
Nid yw UK NSC yn argymell ar hyn o brydsgrinio poblogaeth yn systematig ar gyfer pobl o dan 39 oed ar gyfer cyflyrau cardiaidd sy'n gysylltiedig â SCD. Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o’r cyflwr hwn yn 2019, a chanfuwyd na ddylid cynnig sgrinio am y rhesymau a ganlyn:
§ Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil yn ymwneud â phrofi athletwyr proffesiynol, nid y boblogaeth gyffredinol. Felly, efallai na fydd yr ymchwil yn rhoi syniad da o'r hyn y byddent yn ei ddarganfod pe bai pob person ifanc o dan 39 oed yn cael ei brofi.
§ Nid oedd yr ymchwil ar y profion yn adrodd cywirdeb da. Ni fydd gan ganran uchel o'r rhai sy'n cael profion positif gyflwr a allai achosi SCD. Nid oedd ychwaith yn bosibl amcangyfrif canran y bobl yr effeithiwyd arnynt y gallai'r prawf fod wedi eu methu.
§ Ni wnaeth yr adolygiad ganfod unrhyw ymchwil ar driniaethau neu ymyriadau effeithiol i atal SCD mewn pobl y nodwyd eu bod mewn perygl gan y sgrinio.
§ Gall prawf positif anghywir achosi pryder diangen ac atal pobl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.
Dywed UK NSC fod yna ganllawiau ar brofi aelodau teulu pobl sydd mewn perygl o gael SCD ac y gall gweithredu’r canllawiau hynny fod yn effeithiol trwy raglen sgrinio wedi’i thargedu helpu i atal SCD mewn rhai grwpiau o bobl sy’n wynebu risg uchel.
I bobl hŷn, mae SCD yn fwy tebygol o gael ei achosi gan glefyd coronaidd y galon. Os yw meddyg teulu yn meddwl bod claf mewn perygl o glefyd coronaidd y galon, byddant yn cynnal asesiad risg a phrawf gwaed, cyn atgyfeirio am brofion pellach i gadarnhau’r diagnosis.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon yn amlygu bod Gweinidogion yn dilyn cyngor annibynnol, arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dweud y bydd yn aros am gyngor diweddaraf UK NSC ac yn ystyried unrhyw newidiadau posibl cyn gynted ag y bydd hyn ar gael.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun ar gyfer Ataliad ar y Galon y tu allan i’r Ysbyty yn 2017. Yn dilyn hynny, lansiwyd rhaglen Achub Bywyd Cymru yn 2019, sy’n anelu at wella cyfraddau goroesi yng Nghymru yn dilyn ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty drwy gynyddu darpariaeth ac ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr a hybu sgiliau CPR.
Mae’r Pwyllgor eisoes wedi ystyried dwy ddeiseb ar bynciau tebyg:
Yn y ddau
achos, nododd y Pwyllgor bwyslais cryf Llywodraeth Cymru ar
bwysigrwydd canllawiau UK NSC a chytunwyd nad oedd lle i fynd
â’r ddeiseb yn ei blaen.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.
|